Chwilio am asiantaethau cyflogi yn y DU ar Yell.com


Bydd y canlyniadau'n ymddangos yn Saesneg

Mae chwilio am swyddi gwag ar-lein yn dod yn fwyfwy poblogaidd, nid yn unig yn y DU, ond ar draws y byd. Does dim gwahaniaeth a ydych chi'n chwilio am swyddi gwag neu'n awyddus i hysbysebu swyddi yn eich cwmni chi, bydd asiantaeth gyflogi'n medru eich helpu.


Beth sydd gan asiantaeth gyflogi i'w gynnig i mi?
Os ydych chi'n chwilio am swydd:


  • Mae llawer o asiantaethau cyflogi'n arbenigo mewn sectorau busnes penodol ac, os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn maes penodol, gallai fod o fudd i chi gysylltu â'r asiantaethau cyflogi hyn yn hytrach na mynd trwy asiantaeth gyffredinol;
  • Cofiwch y dylai asiantaeth gyflogi dda wybod am y farchnad berthnasol a'r sgiliau y mae eu hangen ynddi er mwyn paru eich dyheadau â'r cyfleoedd sydd ar gael;
  • Dylai'r asiantaeth gyflogi gysylltu â chi o fewn ychydig ddyddiau ar ôl derbyn eich manylion. Fodd bynnag, os na fyddwch wedi clywed unrhyw beth, gwiriwch fod yr asiantaeth gyflogi wedi eu derbyn;
  • Cysylltwch â'r asiantaeth gyflogi o leiaf unwaith yr wythnos i sicrhau eu bod yn cofio amdanoch ac yn gweithio i ddod o hyd i swydd i chi;
  • I sicrhau mwy o gyfle, peidiwch â'ch cyfyngu'ch hun i un asiantaeth gyflogi—cysylltwch â thair o leiaf;
  • Wrth gysylltu ag asiantaeth gyflogi ar-lein, aseswch gyfrinachedd gwefannau asiantaethau cyflogi cyn cyflwyno manylion personol—mae mwyafrif yr asiantaethau cyflogi'n arddangos eu polisïau preifatrwydd a chyfrinachedd ar-lein;
  • Dylai asiantaethau gadw at reoliadau gwarchod data, a dylech fedru darganfod pa mor hir bydd yr asiantaeth gyflogi'n cadw eich manylion;
  • Byddwch yn ofalus wrth gyflwyno'ch manylion cartref personol i'r asiantaeth gyflogi ar-lein - efallai byddai'n well gennych ddarparu dulliau cyswllt eraill ar eu cyfer, megis cyfeiriad e-bost.


Awgrymiadau defnyddiol
Os ydych yn bwriadu ymweld ag asiantaeth gyflogi neu gysylltu ag un, gwnewch yn siwr:

  • Eich bod yn gwisgo'n briodol. Mae'n arferol i bobl wisgo dillad busnes i ddangos eu bod yn drwsiadus.
  • Os byddwch yn trefnu apwyntiad gydag asiantaeth gyflogi, eich bod yn cyrraedd 5 munud yn gynnar. Mae'n bwysig bod yn brydlon.
  • Bod gennych gopi diweddar o'ch CV neu'ch braslun gyrfa gyda chi wrth ymweld â'r asiantaeth gyflogi.


Sut gall Yell.com fy helpu?
Mae gan Yell.com gronfa ddata helaeth o asiantaethau cyflogi mewn miloedd o leoliadau ar draws y DU, felly gwnewch yn fawr ohoni i gael hyd i'ch swydd ddelfrydol yn y lleoliad perffaith.

Calls to 118 24 7 cost 14p per minute billed by the second with a 79p connection charge for all directory enquiries. Network costs may vary.