Chwilio am werthwyr tai yn y DU ar Yell.com


Bydd y canlyniadau'n ymddangos yn Saesneg

P'un a ydych am brynu neu werthu eich eiddo, gall gwerthwr tai eich cynorthwyo bob cam o'r ffordd.


Beth sydd gan werthwr tai i'w gynnig i mi?
Asiant tai yw busnes sy'n trefnu prynu, gwerthu, rhentu neu reoli cartref, darn o dir neu adeiladau eraill. Os ydych yn gwerthu tŷ, mae gwerthwyr tai yn eich helpu i farchnata'ch eiddo er mwyn sicrhau ei fod yn apelio i ddarpar brynwyr. Fodd bynnag, os ydych chi'n prynu cartref, gall gwerthwr tai sicrhau eich bod yn cael hyd i eiddo addas yn ddiffwdan. Bydd gwerthwyr tai yn cymryd eich manylion ac yn gwrando ar eich anghenion a'ch dewisiadau, gan roi gwybod i chi am eiddo y maen nhw'n teimlo eu bod yn addas i chi.

Awgrymiadau defnyddiol


Am brynu cartref?

  • Meddyliwch am eich gofynion o ran cartref - sawl ystafell wely, ystafell ymolchi ac ati, a threfnwch restr o'r hyn y mae ei angen arnoch a'r hyn yr hoffech ei gael.
  • Penderfynwch ym mha ardal yr hoffech chi brynu cartref. Gwnewch yn siŵr bod gan y lleoliad bopeth y mae arnoch ei angen, er enghraifft, ysgol gerllaw, archfarchnad leol, campfa leol ac ati.
  • Penderfynwch faint o arian gallwch ei wario. Mae'n bwysig nodi faint fydd eich cyllideb a beth yw'r uchafswm byddech chi'n barod i'w wario.
  • Ewch i sawl gwerthwr tai yn yr ardal a chofrestru gyda nhw - po fwyaf o asiantau fydd yn chwilio am gartref addas i chi, mwyaf o gyfle fydd gennych o ddod o hyd i un addas!


Am werthu cartref?

  • Gofynnwch i'r gwerthwr tai pa mor hir gymerodd hi i werthu fflatiau neu dai tebyg yn eich ardal;
  • Holwch faint o gomisiwn mae'r gwerthwr tai yn ei godi;
  • Gofynnwch pa gontractau mae'r gwerthwr tai yn eu cynnig;
  • Gofynnwch sut bydd y gwerthwr tai yn hysbysebu'ch tŷ neu eich fflat;
  • Gofynnwch ydyn nhw'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai - sefydliad proffesiynol yw hwn y mae ei aelodau wedi'u rhwymo gan reolau ymddygiad pendant er mwyn sicrhau eich bod chithau'n cael eich trin yn deg.


Sut gall Yell.com fy helpu?
I gael hyd i werthwr tai addas i chi, y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw teipio eich lleoliad yn y blwch chwilio uchod. Gall Yell.com hefyd ddangos i chi pa werthwyr tai sy'n aelodau o Gymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai - sgroliwch i waelod y dudalen ganlyniadau a chlicio ar y logo sydd yno.

Calls to 118 24 7 cost 14p per minute billed by the second with a 79p connection charge for all directory enquiries. Network costs may vary.