Chwilio am Fwytai yn y DU ar Yell.com
Bydd y canlyniadau'n ymddangos yn Saesneg
Beth sydd gan fwyty i'w gynnig i mi?
Mae miloedd o wahanol fathau o fwytai yn y DU, o'r rheiny sy'n arbenigo mewn cinio rhesymol i'r rheiny sy'n cynnig cinio drud a ffurfiol gyda'r hwyr. Mae bwytai'n amrywio hefyd o ran y gwahanol fathau o fwyd sydd ar gynnig yno, er enghraifft, bwytai llysieuol, bwytai Eidalaidd, a bwytai Indiaidd.
Awgrymiadau defnyddiol
Wrth ddewis bwyty, dylech ystyried sawl peth:
- Penderfynwch pa fath o fwyd rydych am ei gael: gallwch ddewis o blith Indiaidd, Tsieineaidd, Siapaneaidd, Sbaenaidd a llawer mwy.
- Os ydych yn mynd i fwyty gyda nifer o bobl eraill, gallai fod yn syniad da holi a oes gan unrhyw un ohonynt alergeddau bwyd neu a ydynt yn llysieuwyr. Trwy ofyn ymlaen llaw, byddwch yn medru gwirio bod y bwyty rydych wedi'i ddewis yn cynnig dewisiadau addas ar gyfer eich ffrindiau a'ch teulu.
- Edrychwch ar fwydlen y bwyty ymlaen llaw i weld a oes ganddynt gynigion arbennig ar rai dyddiau penodol, er enghraifft, bwffe bwyta llond bol bob dydd Mawrth.
- Chwiliwch am adolygiadau o'r bwyty rydych wedi'i ddewis. Gallwch wneud hyn ar y rhyngrwyd neu drwy ofyn i'ch ffrindiau a'ch teulu.
- Unwaith y byddwch wedi dewis bwyty, cofiwch archebu lle ymlaen llaw, yn enwedig os byddwch yn nifer mawr, er mwyn sicrhau bod bwrdd ar gael i chi.
Sut gall Yell.com fy helpu?
P'un a ydych yn chwilio am fwyty Ffrengig, Eidalaidd, Indiaidd, neu Seisnig traddodiadol, gall Yell.com eich helpu i ddod o hyd i fwyty cyfleus i chi. Y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw teipio eich lleoliad o ddewis yn y blwch chwilio uchod a chlicio ar 'chwilio'.
